Darllenwch y Rheolau i gyd cyn mynd mewn i'r Ardal Chwarae ac yn ystod eich ymweliad.
Cyfrifoldeb Rhiant
- Rhaid i oedolyn cyfrifol fod efo pob plentyn bob amser. Nid yw Canolfan Empire yn derbyn cyfrifoldeb am oruchwylio plant.
- Mae Rhieni/Gwarcheidwaid yn gyfrifol am ymddygiad a lles y plentyn dan eu gofal a rhaid iddynt eu goruchwylio bob amser.
- Mae cyfyngiadau oedran yn amrywio'n dibynnu ar pa ardal chwarae y mae ymwelwyr yn eu defnyddio. Mae'r rhain mewn grym er diogelwch a mwynhad bob plentyn.
- Dylai rhieni a gwarcheidwaid fynd efo'r plant i'r toiledau bob amser a rhaid iddynt sicrhau bod dwylo'n cael eu golchi cyn mynd mewn i'r ardal chwarae. Dylid newid clytiau a defnyddio potiau yn y toiledau gyda chyfleusterau newid clytiau babis. Rhowch y clytiau yn y biniau cywir a ddarperir.
- Mae'n rhaid i blant adael bathodynnau a gemwaith gydag oedolyn cyfrifol. Mae hyn yn cynnwys sbectol oni bai eu bod yn cael eu gwisgo gyda dolen a lensys sydd ddim yn torri.
- Tynnwch eich esgidiau cyn mynd mewn i'r ardal chwarae. Rhaid gwisgo sanau bob amser.
- Mae chwarae'n cael ei gyfyngu i 2 awr yn ystod cyfnodau prysur.
- Ni ddylai plant sy'n sâl fynd mewn i'r ardal chwarae.
- Ni fydd cwffio neu fwlio yn cael eu goddef. Efallai y byddwn yn gofyn i bobl/plant sy'n euog o hynny adael.
- Rhaid i rieni ddweud wrth aelod o staff am unrhyw bryderon o ran ymddygiad. Ni ddylech geisio ymyrryd eich hun.
- Mae Canolfan Empire yn adeilad Di-fwg.
Iechyd a Diogelwch Plant
- Mae tîm Canolfan Empire yn goruchwylio'r offer chwarae ac yn helpu i wneud yn siŵr fod eich plentyn yn mwynhau ei brofiad chwarae. Fodd bynnag, nid ydynt yno yn lle rhiant.
- Ni ddylid mynd ag unrhyw fwyd, diod na gwm cnoi mewn i'r ardal chwarae.
- Gwaherddir ysmygu yn y ganolfan chwarae.
- At ddibenion Iechyd a Diogelwch, gwnewch yn siŵr fod unrhyw weddillion bwyd sy'n disgyn ar y llawr yn cael eu codi/glanhau cyn gynted ag y bo modd. Dywedwch wrth aelod o staff am unrhyw beth sy'n cael ei golli ar y llawr.
- Dywedwch wrth aelod o staff am bob damwain, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn medru helpu a lleihau'r posibilrwydd o'r ddamwain yn digwydd eto. Bydd y rhain yn cael eu cofnodi ac maent yn rhan bwysig o archwiliadau diogelwch parhaus.
- Rhaid rhoi gwybod i aelod o staff am bob difrod, boed yn ddamweiniol neu'n fwriadol i eiddo Canolfan Empire.
- Oherwydd rhesymau Iechyd a Diogelwch, ni chaniateir bwyta bwyd yma oni bai ei fod yn cael ei brynu yng Nghanolfan Empire.
- Dylai Rhieni/Gwarcheidwaid nodi, er bod pob ystyriaeth wedi ei roi ar gyfer diogelwch plant sy'n defnyddio'r ganolfan chwarae, nid yw Canolfan Empire yn gyfrifol am ddamweiniau sy'n digwydd o ganlyniad i blant yn chwarae ar yr offer!
Chwarae'n Ddiogel
- Rhaid i blant fynd lawr y sleidiau ar eu heistedd, gan groesi eu breichiau.
- Peidiwch â chwarae o flaen ceg y sleidiau.
- Ni chaniateir dringo ar y waliau rhwydi na thu allan i'r strwythur.
- Rydym yn argymell bod plant yn gwisgo llewys hir a throwsus. Dylid tycio dillad rhydd bob amser.
- Ni ddylai plant wisgo dillad sy'n cynnwys rhaffau/llinynnau neu stydiau metel yn yr ardal chwarae.
- Ni chaniateir mynd ag unrhyw eitem finiog fel teganau, bathodynnau, gemwaith etc mewn i'r ardal chwarae.